2011 Rhif 1501 (Cy. 175)

TAI, Cymru

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Dirymu) (Cymru) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu, o ran Cymru, Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 1996 (O.S. 1996/2891) a Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998 (O.S. 1998/1113). Roedd Rheoliadau  1996 a 1998 yn rhagnodi ffurflen Saesneg a ffurflen Gymraeg ar gyfer ceisiadau am grantiau o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (am gymorth gan awdurdodau tai lleol tuag at gost gwaith sy’n ofynnol er mwyn darparu cyfleusterau i bersonau anabl mewn anheddau penodedig).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud y dirymiadau canlyniadol canlynol mewn perthynas â Chymru:

1. rheoliad 4 o Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai a Chymorth Trwsio Cartrefi (Diwygio) 1996 (O.S. 1996/3119);

2. Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) 1997 (O.S. 1997/978);

3. Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) 1998 (O.S. 1998/809);

4. Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) 1999 (O.S. 1999/1607);

5. Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) 1999 (O.S. 1999/2316);

6. Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) a (Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/3470 (Cy.56));

7. Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig a Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1735 (Cy.119));

8. Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygio) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2071 (Cy.143));

9. Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/4006 (Cy.332));

10. Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2799 (Cy.267));

11. Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/254 (Cy.29));

12. Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2800 (Cy.239)).

 


2011 Rhif 1501 (Cy. 175)

TAI, Cymru

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Dirymu) (Cymru) 2011

Gwnaed                               14 Mehefin 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       16 Mehefin 2011

Yn dod i rym                      7 Gorffennaf 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 2(2) a (4), 101 a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996([1]) ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993([2]) ac a freinir bellach ynddynt hwy i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Dirymu) (Cymru) 2011, a deuant i rym ar 7 Gorffennaf  2011.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymiadau

2. Dirymir yr offerynnau a restrir yng ngholofn 1 o’r tabl isod (sydd â’r cyfeirnodau a restrir yng ngholofn 2) i’r graddau a ddynodir yng ngholofn 3:

 

Colofn 1

 

Offeryn a ddirymir

Colofn 2

 

Cyfeirnod

Colofn 3

 

Graddau’r dirymu

 

 

 

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 1996

 

O.S. 1996/2891

O ran Cymru, yr offeryn cyfan

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai a Chymorth Trwsio Cartrefi (Diwygio) 1996

 

O.S. 1996/3119

O ran Cymru, rheoliad 4

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) 1997

 

O.S. 1997/978

O ran Cymru, yr offeryn cyfan

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) 1998

O.S. 1998/809

O ran Cymru, yr offeryn cyfan

 

 

 

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Ffurflenni a Manylion Cymraeg) 1998

 

O.S. 1998/1113

Yr offeryn cyfan

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) 1999

 

O.S. 1999/1607

O ran Cymru, yr offeryn cyfan

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) 1999

 

O.S. 1999/2316

Yr offeryn cyfan

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) a (Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 1999

 

O.S. 1999/3470 (Cy.56)

Yr offeryn cyfan

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig a Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 2000

 

O.S. 2000/1735

(Cy.119)

Yr offeryn cyfan

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygio) (Cymru) 2001

 

O.S. 2001/2071

(Cy.143)

Yr offeryn cyfan

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2001

 

O.S. 2001/4006

(Cy.332)

Yr offeryn cyfan

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2002

 

O.S. 2002/2799

(Cy.267)

Yr offeryn cyfan

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2004

 

O.S. 2004/254

(Cy.29)

Yr offeryn cyfan

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2006

 

O.S. 2006/2800

(Cy.239)

Yr offeryn cyfan

 

 

 

Huw Lewis

 

 

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru

 

14 Mehefin 2011



([1])           1996 p.53. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 2(2) a (4), 101 a 146(1) a (2), i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod ar gyfer Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) mae’r swyddogaethau a oedd yn arferadwy gynt gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru. Gwnaed diwygiadau i Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([2])           1993 p.38. Roedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2(b) ac Atodlen 1, yn cyfarwyddo bod y pŵer yn adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), yn gydredol ag unrhyw Weinidog y Goron yr oedd y pŵer hwnnw’n arferadwy ganddo. Trosglwyddwyd y pŵer o’r Cynulliad hwnnw i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30(1) o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.